Morgan BULMAN Obituary
Hunodd yn dawel ddydd Sadwrn 19eg o Hydref 2024, yn Ysbyty Bronglais Aberystwyth, yn 89 mlwydd oed, Morgan John, Clydfan, Station Rd, Tregaron. Priod annwyl Megan, Tad parchus Brian, Peter a'r diweddar Doreen, Tad yng nghyfraith parchus Dilwen a Melanie, Tadcu cariadus Kevin, Karen, Damien, Natalie, Nicola a Cameron a Hen dadcu cariadus Noah, Cadi-Mai a Deio. Gwasanaeth hollol breifat yn Amlosgfa Aberystwyth, ddydd Gwener Tachwedd 8fed 2024 am 1 o'r gloch. Ymholiadau pellach i Tom Eurfyl Jones a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Lleifior, Pentre, Tregaron, Ceredigion, SY25 6NB, Ffôn: (01974) 298500.
Published by Tindle Wales & borders on Nov. 8, 2024.